EP i nodi pen-blwydd Mynd â’r Tŷ am Dro

Wrth i Cowbois Rhos Botwnnog nodi blwyddyn ers rhyddhau eu halbwm llwyddiannus, ‘Mynd â’r Tŷ Am Dro’, maent wedi cyhoeddi EP newydd sy’n gydymaith i’r record hir. 

‘Mynd âr Tŷ Bach am Dro’ ydy enw addas iawn yr EP sydd allan ar y llwyfannau digidol. 

Rhyddhawyd yr albwm flwyddyn yn ôl, ym mis Mawrth 2024 ac mae wedi cael croeso cynnes gan gipio teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf fis Awst diwethaf, cyn cael ei goroni’n ‘Albwm Gorau 2024’ ym mhleidlais Gwobrau’r Selar yn ddiweddar. 

“Outtakes o’r stiwdio, demos a thraciau byw o Neuadd Dwyfor Pwllheli” eglura’r band. 

“Werth gwrando i glywed annwyd mawr Iwan ar y demo ‘Adenydd’!”

Bydd unrhyw un sydd wedi prynu’r albwm llawn ar Bandcamp Cowbois Rhos Botwnnog yn gallu cael gafael ar y traciau newydd i’w lawr lwytho heb orfod talu amdanynt. 

Bydd yr EP yn cael ei gyhoeddi ar y llwyfannau digidol fel rhan o fersiwn ‘Deluxe’ o’r albwm.

Traciau Mynd â’r Tŷ am Dro (Deluxe)

  1. Clawdd Eithin
  2. Mynd â’r Tŷ am Dro
  3. Defodau
  4. Halltu’r Dydd
  5. Adenydd
  6. Trosol
  7. Magl
  8. Cyrraedd Glan
  9. Blodau Haearn Blodau Glo
  10. Defodau (Alt. take)
  11. Adenydd (Demo)
  12. Cyrraedd Glan (Sesiwn)
  13. Mynd â’r Ty am Dro (Yn Fyw)
  14. Halltu’r Dydd (Yn Fyw)
  15. Blodau Haearn Blodau Glo (Yn Fyw)

Llun: FfotoNant