Mae’r gantores boplogaidd, Mared, yn ymuno ag enigma’r byd rap, skylrk., ar sengl newydd fydd allan ar 26 Mawrth.
‘Tywys Fi’ ydy enw’r trac neo-soul Cymraeg newydd, fydd yn cael ei ryddhau drwy label newydd Beacons Cymru.
Wedi’i ysgrifennu a’i recordio mewn dim ond dau ddiwrnod yn stiwdio eiconig Sain, ganwyd ‘Tywys Fi’ fel rhan o Cadw Sŵn, menter newydd gan Amlen, cangen iaith Gymraeg Beacons Cymru. Mae’r prosiect newydd yn meithrin cydweithio ar draws arddulliau ymhlith artistiaid drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Dwi byth wedi cydweithio fel hyn o’r blaen…” eglura Skylrk.
“Mae wedi bod yn broses fascinating, a dwi’n teimlo mor ddiolchgar bod ni wedi cael y profiad i greu mewn ffordd sy’n eitha’ unigryw.”
‘Tywys Fi’ yw’r cyntaf mewn cyfres o draciau sydd ar y ffordd dros y flwyddyn nesaf, ar ôl cael ei ddatgelu’n wreiddiol yn ystod lansiad swyddogol y prosiect yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 ym Mhontypridd, ar y cyd a dangosiad arbennig o ffilm ddogfen oedd yn dilyn proses creadigol yr artistiaid, wedi’i gyfarwyddo gan Sam Stevens a Jake Hodges.
Beacons Cymru wedi esblygu
Esblygodd Beacons Cymru o brosiectau rhanbarthol llwyddiannus fel Forté Project a Young Promoters Network, i fod yn sefydliad sydd bellach yn gweithredu ar draws Cymru i rymuso’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc sy’n dyheu i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.
Mae lansiad Recordiau Beacons Cymru gyda ‘Tywys Fi’ yn nodi pennod gyffrous newydd i’r sefydliad, gan gynnig llwyfan hanfodol i artistiaid ifanc Cymraeg gydweithio a chael eu clywed.
Ers ei lansio yn 2023, dechreuodd Amlen fel prosiect ymchwil a datblygu yn dogfennu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl ifanc yng Nghymru wrth adeiladu gyrfaoedd cerddorol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Erbyn Ionawr 2024, roedd y tîm wedi cyhoeddi adroddiad allweddol yn amlygu teimladau pobl ifanc creadigol ar draws Cymru, gan droi Amlen yn fudiad sy’n anelu at greu diwydiant creadigol yng Nghymru sydd yn fwy cydweithredol, hygyrch a phroffesiynol drwy gynnig cyfleoedd i bob lefel gyrfa.
Bydd ‘Tywys Fi’ ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol ar 26 Mawrth, gyda fideo cerddorol a mini-ddogfen, wedi’u saethu gan Sam Stevens a Jacob Hodges, i’w gyhoeddi ar 2 Ebrill.