Ffos Goch yn rhyddhau albwm ‘Byd Sbwriel’ 

Mae Ffos Goch wedi rhyddhau ei albwm cyntaf ar y llwyfannau digidol arferol. ‘Byd Sbwriel’ ydy enw’r record hir 14 trac newydd gan brosiect diweddaraf y cerddor profiadol Stuart Estell. 

Er ei fod wedi bod yn aelod o sawl band dros y blynyddoedd, Ffos Goch ydy prosiect Cymraeg cyntaf Estell hefyd, ag yntau wedi dysgu Gymraeg yn lled ddiweddar. 

Er dechrau cyfansoddi dan yr enw Ffos Goch, mae wedi bod yn hynod o weithgar gan ryddhau nifer o senglau ac EPs. 

Er iddo ryddhau albwm Nadolig “damweiniol” llynedd dan yr enw ‘Dawel Nos’, dywed Estell ei fod yn ystiried ‘Byd Sbwriel’ fel albwm “go iawn” cyntaf Ffos Goch. 

Mae sbwriel yn thema sylfaenol i’r albwm er nad yw’r record yn un cysyniadol mewn gwirionedd yn ôl yr artist. 

“Beth yn union yw sbwriel? Shwd allen ni ymdopi ag erchylltra’r byd sydd ohoni?” gofyna’r cerddor. 

“Gall sbwriel fod yn gysur i’r rhai sy’n celcio, ond yn amlwg gan e fod yn garchar hefyd. Wrth gwrs, ar ddiwedd y daith, bydd ein bagiau o esgyrn a gwaed i gyd yn sbwriel. Ond yn anochel, mae hiwmor swreal yn llechu ym mhob twll a chornel y record.” 

Mae llyfr ‘Byd Sbwrie” Geiriau Ffos Goch 2022-2025’ wedi’i gyhoeddi i gydfynd â’r albwm, ac mae ar gael ar Amazon. 

Mae’r albwm ar Bandcamp Ffos Goch nawr.

Dyma ‘Trên Disco i Grymych’ o’r albwm: