Llyfr Bwncath i ddathlu’r degawd

I ddathlu deng mlynedd ers sefydlu’r grŵp, mae llyfr newydd yn cael ei gyhoeddi sy’n rhoi cip ar hanes a thaith y band poblogaidd, Bwncath. Mae’r gyfrol yn cynnwys lluniau a sgyrsiau gyda’r aelodau presennol, Elidyr, Robin a Twm, ynghyd ag atgofion a gwerthfawrogiad amryw o gerddorion blaenllaw, drwy lygaid y ‘ffans’ a thrwy 31 o ganeuon gyda chordiau gitâr.  

Yn hogyn ysgol yng Nghaernarfon, wedi treulio oriau yn gwrando ar ganeuon rhai fel Bryn Fôn ac Alun Sbardun Huws, roedd Elidyr Glyn yn cyfansoddi caneuon i’w gyfeiliant ei hun ar y gitâr. 

Erbyn ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, daeth tafarn y Glôb ym Mangor Uchaf yn grud i ganeuon cyntaf Bwncath, pan ddechreuodd Elidyr gyfansoddi a pherfformio gyda Meredydd Humphreys. Daeth nosweithiau meic agored y Glôb yn boblogaidd ac Elidyr a cherddorion eraill fel Gwilym Bowen Rhys a Gethin Griffiths yn cymryd rhan amlwg. 

Gofynnodd Robin i Elidyr wneud ychydig o ‘demos’ ar Soundcloud ac yn y man dechreuodd Elidyr, Robin, Gwilym a Meredydd berfformio gyda’i gilydd, dan yr enw Bwncath, a gwneud eu gig cyntaf yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, ym mis Mawrth 2015.

Roedd cynulleidfaoedd ardaloedd fel Pen Llŷn yn gyfarwydd iawn efo’r caneuon erbyn hyn, drwy berfformiadau Elidyr a Gwilym mewn amrywiol leoliadau yn yr ardal yn ystod yr haf. Daeth yr albwm cyntaf yn 2017, ac yna wedi i Elidyr ennill cystadleuaeth Can i Gymru yn 2019, gyda’i gan ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’, roedd rhyw newid ar droed a chynulleidfaoedd Bwncath yn ehangu eto a galw mawr amdanynt ar hyd a lled y wlad. 

Rhyddhawyd Bwncath II ar gychwyn y cyfnod clo ac wedi sbel go hir o seibiant daeth y band yn ôl i berfformio’n fyw a chynulleidfaoedd drwy Gymru yn gwybod pob gair o’u caneuon. Cyrhaeddodd yr albwm Siartiau Gwerin Prydain ac erbyn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn 2023 roedd y band yn chwarae ar Lwyfan y Maes o flaen torf o 11,000. Mae Llwyfan y Maes Eisteddfod Wrecsam, 2025, yn dal yn fyw iawn yng nghof llawer un a pherfformiad y band gyda Dafydd Iwan i gloi’r Eisteddfod yn un bythgofiadwy.   

Mae’r gyfrol yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am yr hanesion tu ôl i’r llwyfan, hoff gigs y band, beth sy’n eu hysbrydoli a llawer mwy.

Bydd y llyfr allan ar 19 Tachwedd am bris o £12.95 a gellir ei rag archebu ar wefan Sain nawr. 

Dolen i archebu llyfr Bwncath: https://sainwales.com/cy/products/bwncath-1