Mae Mr, sef prosiect diweddaraf y cerddor profiadol Mark Roberts, wedi rhyddhau ei sengl newydd.
‘Margarine’ ydy enw’r sengl newydd gan y cerddor sy’n gyfarwydd fel aelod o’r bandiau Y Cyrff a Catatonia.
Ers dechrau prosiect Mr, mae Mark wedi rhyddhau 5 albwm, gyda’r diweddaraf, ‘Misses’, yn glanio ym mis Gorffennaf 2023.
Mae ‘Margarine’ yn dilyn cyfres o senglau a ryddhawyd yn ystod 2024 sef ‘Blewyn y Ci’, ‘Rhag d Gywilydd Di’ ac ‘Airbnb’.
Mae’r sengl newydd ar gael trwy safle Bandcamp Mr.
Prif lun: Celf Calon