Flwyddyn ers i gitarydd a phrif ganwr y grŵp ddioddef strôc yn ystod set yn Sesiwn Fawr Dolgellau, mae Cowbois Rhos Botwnnog yn ôl yn perfformio ar lwyfan.
Yn wir, roedd y band yn ôl ar lwyfan y Sesiwn Fawr yn Nolgellau dros y penwythnos, gig arwyddocaol dros ben o ystyried yr hanes.
Cyn hynny roedden nhw wedi gwneud eu hymddangosiad cyntaf mewn gig yn LLOFFT.CYMRU ddiwedd mis Mehefin ac roedd y set ‘comeback’ wedi’i ddal mewn fideo arbennig gan Dafydd Nant, neu ‘FfotoNant’, sy’n gyfaill i’r grŵp.
Wrth gyhoeddi’r fideo ar-lein fe ddatgelodd y band eu bod yn gofidio na fydden nhw byth yn cael cyfle i berfformio ar lwyfan eto ar un pryd.
“Mewn 20 mlynedd o fod yn fand, dyma o bell yr un i ni fod yn fwyaf balch o fedru cael ei wneud, ac yn lwcus ddigon mi oedd cyfaill oes i ni – FfotoNant – yno a’i gamera” meddai’r band ar eu cyfryngau digidol.
Mae’r fideo sy’n dangos Cowbois yn perfformio’r trac newydd ‘Haul Bach’ i’w weld ar-lein nawr.