Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2025

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi’r rhestr fer eleni ar gyfer eu gwobr flynyddol am ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’. 

Gyda phythefnos i fynd tan ddechrau’r  Brifwyl, sy’n ymweld â Wrecsam eleni, cyhoeddwyd enwau’r 10 albwm sydd wedi cyrraedd y rhestr fer y tro hwn.   

Bwriad y wobr, a drefnir ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei rhyddhau yng Nghymru ar hyn o bryd. 

Mae’r wobr bellach wedi bod yn rhedeg ers 2014 ac yn cynnwys pob math o arddulliau cerddorol o bop i werin, offerynnol, clasurol a chorawl ac mae’n agored i unrhyw un sydd wedi cynhyrchu albwm Cymraeg yn y cyfnod rhwng 1 Mehefin 2024 a 30 Mai 2025. 

Bwriad y wobr yw rhoi’r sylw haeddiannol i’r cynnyrch sy’n cael ei ryddhau gan artistiaid yng Nghymru ac yn cael ei dyfarnu gan banel o 6 beirniaid o’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

 Y beirniaid eleni yw Martha Owen, Nico Dafydd, Elain Roberts, Gruffydd Davies, Branwen Williams a Heulyn Rees.

Bydd enw enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn, am 18:10, ddydd Mercher 6 Awst.  

Yr albyms sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni ydy:

 

  •         Adwaith – Solas (Libertino)
  •         Bwncath – Bwncath III (Sain)
  •         Don Leisure – Tyrchu Sain (Sain)
  •         Elfed Saunders Jones – Cofiwch Roswell (Klep Dim Trep)
  •         Gwenno Morgan – Gwyw (Gwenno Morgan)
  •         Gwilym Bowen Rhys – Aden (Recordiau Erwydd)
  •         Pys Melyn – Fel Efeilliaid (Skiwhiff)
  •         Sywel Nyw – Hapusrwydd yw Bywyd (Lwcus T)
  •         Tai Haf Heb Drigolyn – Ein Albwm Cyntaf Ni (Pendrwm)
  •         Ynys – Dosbarth Nos (Libertino)