Fideo ‘Hiraeth i’r Awelon’ – Ymylon

Wythnos ar ôl rhyddhau sengl ddiweddaraf Ymylon, mae fideo ar gyfer y trac ‘Hiraeth i’r Awelon’ bellach wedi’i gyhoeddi ar-lein. 

Ymylon ydy prosiect y cerddor a chyfansoddwr o Benrhyndeudraeth, JJ Lewis-Roberts.

Mae ‘Hiraeth i’r Awelon’ yn ddilyniant i’r sengl ‘Yr Hen Raff’ a ryddhawyd nôl ym mis Gorffennaf eleni.

Meilyr Rhys sydd wedi creu’r fideo ac mae wedi’i ariannu fel rhan o gronfa fideos PYST x S4C.