Gaff yn rhyddhau ei sengl ddiweddara’

Mae Gaff, sef prosiect unigol y cerddor profiadol Alun Gaffey, yn paratoi i ryddhau ei sengl ddiweddaraf. 

‘Elsi’ ydy enw’r trac newydd ganddo sy’n gân am ei ferch. 

Mae ‘Elsi’ yn ddilyniant i’w sengl ‘Tomos Alun’ a ryddhawyd ym mis Mawrth eleni, ac oedd yn gân am ei fab. 

“Nôl ym mis Mawrth, nes i ryddhau ‘Tomos Alun’, cân nes i sgwennu wrth roi fy mab lawr i gysgu un noson” eglura Alun Gaffey. 

“Wel, roedd rhaid cadw’r ddysgl yn wastad a gwneud un am fy merch Elsi… yn enwedig gan mai hi ddoth i’r byd yn gyntaf! 

“Ond y gwir ydi, roedd hi wastad yn fwriad gen i sgwennu un iddi hi hefyd. Mae Elsi yn gorwynt, yn belen o egni, yn ‘ffrwydrad o liw’ fel mae’r gân yn ei ddisgrifio.

Mae nifer o gyfeillion yn ymuno ag Alun ar y trac, ynghyd â theulu fel yr eglura’r cerddor. 

“Dwi’n falch iawn o’r sŵn dwi ‘di greu ar y gân yma. Y vibe ymlaciedig a’r curiad bossa nova sy’n perthyn i’r gân (Llywelyn ap Gwyn ar y dryms). 

“Dwi’n hapus iawn efo’r gitâr flaen dwi’n chwarae arni, ac mae’r ffliwt, sy’n cael ei chwarae gan Sadie Finch, yn ychwanegiad hyfryd hefyd.  

“Ac yn olaf… mae’n rhaid i mi sôn am yr harmonïau sy’n cael eu canu gan fy ngwraig Elin, sef mam Elsi, pob tro mae’r geiriau’n cyfeirio at ‘ni’/ ‘ein’ / ayyb. Roedd hynny’n gyffyrddiad bach neis oni’n meddwl.”

Bydd ‘Elsi’ yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Mirain Iwerydd ar BBC Radio Cymru ar nos Fercher 24 Medi a bydd y trac allan yn swyddogol am 20:00 y noson honno.  

Bydd GAFF yn chwarae gig rhad ac am ddim i ddathlu’r rhyddhau yn The New Moon, Caerdydd nos Sadwrn 27 Medi gyda chefnogaeth gan Gwyd Ion.