Mae Gruff Rhys wedi cyhoeddi fideo ar gyfer ei sengl ddiweddaraf.
‘Taro #1 + #2’ ydy enw’r trac newydd ganddo sydd allan ers 12 Awst, gan nodi union fis nes rhyddhau’r albwm, ‘Dim Probs’, fydd allan ar 12 Medi ar label Rock Action Records.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i’r traciau ‘Saf Ar Dy Sedd’ a ‘Chwyn Chwyldroadol’ sydd eisoes wedi’u rhyddhau fel senglau dros y ddeufis diwethaf.
Maer fideo wedi’i greu gan Ryan Eddleston, a’i olygu gan gyfaill Gruff, y ffilm wneuthurwr Dyl Goch.