heddlu yn ôl gydag ail albwm

Mae heddlu, sef prosiect diweddaraf cerddor amlwg o Geredigion, wedi rhyddhau albwm newydd. 

Tramor ydy enw’r record hir sydd allan ar label Zawn Records. 

heddlu yw prosiect diweddaraf Rhodri Daniel, gynt yn aelod o’r band Estrons a ddenodd sylw gan gyhoeddiadau’r NME, Vice, DIY, Clash, The Guardian a’r Independent yn ogystal â gorsafoedd radio BBC Radio 6 a Radio X.

Wedi blynyddoedd o deithio a pherfformio’n fyw, daeth Rhodri yn ymwybodol bod ei glyw wedi gwaethygu’n sylweddol, gan arwain yn y pendraw at ddiagnosis o tinitws a sensitifrwydd difrifol i sain. 

Canlyniad hynny oedd bod dim modd i Rhodri chwarae cerddoriaeth yn fyw gan olygu iddo gyfansoddi ei albwm gyntaf, ‘Cantref’ (2022), yn feddyliol wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.  

Roedd ei deulu, a’i chwaer yn benodol, yn gefn iddo drwy’r cyfnod tywyll a dros y ddwy flynedd diwethaf mae Rhodri wedi bod yn dawel arbrofi gyda synau ac offerynnau newydd. 

Mae ei ail albwm yn gyfres o ganeuon sy’n plethu’r cynnil a’r egnïol, y gobaith a’r anobaith.

Dyma’r trac sy’n rhannu enw’r albwm: