Wrth nodi degawd ers rhyddhau eu EP cyntaf, mae Breichiau Hir wedi rhyddhau fersiynau byw o’r caneuon oedd ar y casgliad byr hwnnw.
Rhyddhawyd ‘Mae’r Angerdd Yn Troi Yn Gas’ yn wreiddiol yn 2015, a dyma oedd y cynnyrch swmpus cyntaf gan y band roc o Gaerdydd.
Er mwyn nodi degawd ers rhyddhau’r EP, mae’r band wedi mynd ati i recordio sesiwn byw o’r dair cân oedd ar y record fer. Mae’r EP allan ar wefan y band ac ar eu safle Bandcamp yn unig.
“Yn 2015, odd y band yn edrych ag yn swnio yn wahanol iawn, ond ni dal i chwarae rhai o’r caneuon yma, a ma’ nhw’n meddwl lot i ni. Odd e’n neis ail-ymweld a nhw’n iawn” meddai canwr y band, Steff Dafydd, wrth gyhoeddi’r newyddion.
“Ma’r EP yn sefyll fel chapter cadarn lle natho ni really datblygu sŵn ni. Cyn hwn, odde ni kind of bob man sŵn-wise. Nath yr EP wthio ni i feddwl am greu rhwbeth odd yn swnio fel un cyfanwaith.”
“A wrth edych yn ôl – nes i ddim sylwi just pa mor dywyll odd tôn y gerddoriaeth a’r geiriau.”
I gyd-fynd â’r EP, mae’r band hefyd wedi cynhyrchu hŵdîs sy’n arddangos enw’r record fer. Mae rhain ar gael i’w prynu ar wefan Breichiau Hir hefyd.
Dyma’r fersiwn newydd o’r ardderchog ‘Ti a Dy Ffordd’: