Moletrap yn ôl gyda sengl newydd 

Mae’r band dwy-ieithog o Bowys, Moletrap, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.  

‘Middle Of The Land’ ydy enw’r trac newydd ganddynt ac mae’n adlewyrchu ar y golled o dafodiaith a’r effaith mae hyn yn ei gael ar hunaniaeth, ei fregustod a phwysigrwydd dal gafael ar yr hyn sydd ar ôl ohono.

Daw’r sengl ddiweddaraf ar ôl i’r band ryddhau’r sengl Gymraeg ‘Rhagofn’ ym mis Tachwedd llynedd, ac yna ‘Taffy (Flags On Aber Prom)’ ym mis Ionawr eleni.

Yn ôl y band, mae’r trac wedi’i ysbrydoli gan hanes tafodiaith Gymraeg Sir Faesyfed, a’r person olaf oedd yn defnyddio’r dafodiaith yn ôl y chwedl, sef hen ŵr oedd yn byw mewn bwthyn diarffordd ar ymylon Cwm Elan ac Ucheldir Elenydd.