Gŵyl Sardins ym mis Ionawr

Mae criw Tin Sardins, sy’n gyfarwydd am drefnu gigs yn ardal Caernarfon yn ôl wedi seibiant ac wedi cyhoeddi manylion ‘Gŵyl Sardins’ ym mis Ionawr. 

24 Ionawr fydd dyddiad Gŵyl Sardins, ac fe’i gynhelir yn Pontio, Bangor. 

Dros yr wythnos ddiwethaf mae Tin Sardins wedi bod yn cyhoeddi manylion arlwy’r ŵyl ac mae’n addo bod yn chwip o noson. 

Yr artistiaid sydd wedi eu cyhoeddi ydy Malan, Tai Haf Heb Drigolyn, Pys Melyn, Pasta Hull, Magi., Worldcub, Alffa, Kim Hon ac CF24. 

Yn ôl y criw bydd tocynnau’r digwyddiad ar gael trwy Pontio yn fuan.