Y Nos yn ôl gyda cyfyr o glasur

Mae’r prosiect synthwave electroneg, Y Nos yn ôl gyda sengl newydd. 

Band graffeg sydd wedi’i greu gan Aled Mills ydy Y Nos, ac mae’n nhw’n brosiect unigryw iawn yn yr iaith Gymraeg. 

‘Twll Triongl’ ydy eu sengl ddiweddaraf, sef cyfyr o’r glasur a gyfansoddwyd gan Hefin Hughes a Les Morrison, ac a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru ym 1989.  

Roedd fersiwn wreiddiol ‘Twll Triongl’ eisoes yn gân oedd yn ymgorffori curiadau y 1980au, ond mae fersiwn Y Nos yn taflu goleuni newydd arni gan ei hadfywio trwy eu prism o synth disglair, rhythmau heintus a sain sy’n camu rhwng bydoedd Hall & Oates a The Midnight.  

Y canlyniad ydy teyrnged i glasur o gân bop Gymraeg wedi ei hail-ddychmygu i genhedlaeth newydd, gydag ymylon mwy miniog a naws sy’n fwy trydanol. 

Mae’r sengl yn ddilyniant i’r albwm ‘Neon yn y Nen’ a ryddhawyd gan Y Nos yn Ebrill 2024.

Roedd i’r albwm hwnnw naws synthaidd, nostaljic gyda llawer o’r traciau’n rai y gallech chi ddisgwyl eu clywed mewn ffilmiau o’r 1980au. 

Fersiwn mwy ‘punchy‘ o’r glasur

Yn ôl Aled, roedd poblogrwydd y cyfyr oedd ar albwm cyntaf Y Nos yn ddylanwad dros y penderfyniad i ryddhau fersiwn newydd o gân gyfarwydd arall.

“Dwi wedi bod yn gweithio ar ganeuon newydd ers rhyddhau’r album ‘Neon yy Nen’ llynedd, ond mae tipyn o waith gen i cyn bod albwm newydd yn barod” meddai Aled.

“Felly o’n i eisiau rhoi rhywbeth allan yy cyfamser ac roedd yr un ‘cover’ oedd ar ‘Neon yy Nen’ – ‘Enfys Bell’ – wedi profi’n weddol boblogaidd, felly’n meddwl bydde cover version o glasur arall yn fwy punchy ac â’r potensial i gael fwy o sylw fel sengl ar ben ei hun.

“Dwi’n dangos fy oedran nawr ond Cân i Gymru 1989 yw’r un cynta dwi’n ei gofio pan oeddwn i’n blentyn ifanc, ac wedi dwli ar y gân fuddugol – Twll Triongl – ers hynny. 

“Felly gan fod sŵn ‘Y Nos’ yn cael ei ddylanwadu’n gryf gan gerddoriaeth yr 80au bynnag, roedd Twll Triongl yn ddewis amlwg!”

Er ei fod yn mwynhau rhoi gwedd newydd ar ganeuon cyfarwydd, mae’r cerddor yn cydnabod nad yw’n ceisio rhyddhau fersiwn well na’r wreiddiol.

“Wrth fynd nôl i wrando ar y gwreiddiol nes i sylweddoli, er bod naws 80au cryf i’r gân, cân gitar yw hi fwy na dim, felly o’n i’n gweld bod sgôp i wneud fersiwn dra gwahanol gyda synths ac ati.

“Fel gyda ‘Enfys Bell’, galla i byth cystadlu a’r gwreiddiol, felly roedd yn bwysig gallu gwneud rhywbeth gwahanol â’r gân.

“Gyda ‘Enfys Bell’, er cwrteisi o’n i wedi cysylltu â Mei Emrys o Vanta i sicrhau bod y band yn hapus i mi gyhoeddi fersiwn ‘Y Nos‘ (ac roedd Mei yn gefnogol iawn!), ond dydw i ddim wedi gallu ffeindio ffordd i gysylltu â Hefin Huws eto yn anffodus.

“Fe a ‘legend’ arall y sin roc Gymraeg, Les Morrison [a fu farw yn 2011], wnaeth gyfansoddi’r gân wrth gwrs, felly dwi jyst yn gobeithio bydd Hefin yn hoff o’r fersiwn!”