Mae Heddlu, sef prosiect cerddorol diweddaraf artist profiadol o Geredigion, wedi rhyddhau sengl newydd.
‘Paid Becso Am Dim’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Zawn Records.
Heddlu yw prosiect cerddorol Rhodri Daniel, gynt yn aelod o’r band Estrons a gafodd adolygiadau arbennig yn NME, Vice, DIY a Clash yn ogystal â sylw cyson gan BBC Radio 6, Radio X, Ultimate Guitar, The Guardian a’r Independent.
Cyn hynny roedd hefyd yn aelod o Java, sef band ifanc o Lanbedr Pont Steffan.
Wedi blynyddoedd o deithio a pherfformio’n fyw, daeth Rhodri’n ymwybodol bod ei glyw wedi gwaethygu’n sylweddol, gan arwain yn y pen draw at ddiagnosis o tinitws a sensitifrwydd difrifol i sain.
Yn sgil hynny, doedd Rhodri ddim yn gallu chwarae cerddoriaeth yn fyw gan olygu iddo gyfansoddi ei albwm cyntaf, ‘Cantref’ (2022), yn feddyliol wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Er hynny, roedd ei deulu, a’i chwaer yn benodol, yn gefn iddo o hyd. Gydag amser daw gwellhad, ac ers y ddwy flynedd diwethaf mae wedi bod yn ysgrifennu a’n arbrofi gyda synau ac offerynnau newydd.
Mae’r artist hefyd wedi cyhoeddi bod ail albwm Heddlu ar y ffordd sef ‘Tramor’ – cyfres o ganeuon sy’n plethu’r cynnil a’r egnïol, y gobaith a’r anobaith.
‘Paid Becso Am Dim’, yw’r sengl gyntaf oddi ar yr albwm newydd.
Fe’i hysgrifennwyd ar gyfer chwaer Rhodri sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn cancr y fron dros y blynyddoedd diwethaf. Bellach mewn lle llawer gwell, mae’r gân yn deyrnged fach iddi hi, wedi iddi fod yn gefn i Rhodri pan fu’n dioddef ei hun.
Bydd yr albwm ‘Tramor’ yn ddilyn dros y misoedd nesaf.
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl: