‘Hei Ti’ – sengl newydd Carwyn Ellis & Rio 18

Mae Carwyn Ellis & Rio 18 wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, sef y trac Cymraeg ‘Hei Ti’.

Dyma gân agoriadol albwm newydd y prosiect, ‘Fontana Rosa’, sydd ar y ffordd ddiwedd mis Mai.

Mae’r trac diweddaraf unwaith eto’n cynnwys Elan Rhys, sydd wedi cyd-weithio’n rheolaidd gyda Carwyn Ellis, fel prif lais.

Dechreuodd y trac fel jam offerynnol a recordiwyd mewn sesiwn gan y band yn Toerag Studios, ac fe’i gwblhawyd yn Stiwdio Sain yn Llandwrog. 

Gadael Ymateb