Holl albyms Sain o’r 1980au ar gael yn ddigidol

Mae label recordiau Sain wedi cyhoeddi bod eu holl recordiau o’r 1980au bellach wedi eu rhyddhau’n ddigidol ar y llwyfannau arferol. 

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi holl recordiau’r label o’r 1970au ar y llwyfannau digidol, wrth o’r label Cymraeg eiconig barhau â’r broses o ddigido eu harchif gerddorol. 

Mae’r newyddion yn gyfle i werthfawrogi  holl amrywiaeth cerddorol Cymru’r cyfnod, o grwpiau roc a phop i gerddorion a chantorion gwerin a chorau, o’r traddodiadol i’r gerddoriaeth newydd â dylanwadau pync ac electroneg.

Agorwyd stiwdio newydd Sain, y stiwdio bresennol yn Llandwrog, yn 1980 ac yma y recordiwyd y mwyafrif o gynnyrch y label yn y cyfnod hwn. 

Yn yr 80au cynnar roedd grwpiau ifanc newydd fel Clustie Cŵn, Ficar, Diawled, Brodyr, Ail Symudiad a Jaffync yn amlwg a chantorion benywaidd fel Rhiannon Tomos, Leah Owen a Ruth Barker a grwpiau soffistigedig fel Bando yn gwneud eu marc. 

Yng nghanol y ddegawd, yn 1985, y clywyd lleisiau poblogaidd Y Brodyr Gregory ar Sain am y tro cyntaf a daeth sawl albwm gwerin hefyd yn y cyfnod hwn, a grwpiau fel 4 yn y Bar, Calennig, Cromlech, ac Aberjaber yn cynrychioli ton newydd o artistiaid yn y maes hwn. Roedd cantorion-gyfansoddwyr fel Huw Chiswell, Tecwyn Ifan a Meic Stevens hefyd yn gynhyrchiol iawn yn ystod y ddegawd.

Mae sain y corau wastad wedi bod yn amlwg ar label Sain a doedd yr 80au ddim yn wahanol. Côr Rhiannedd Mon, Côr Meibion Llanelli, Côr Meibion Caernarfon – dim ond rhai o’r enwau mawr yn y cyfnod. Enw mawr arall ac un â’i chyfres ei hun ar s4c am flynyddoedd lawer yn y cyfnod hwn oedd Margaret Williams, tra bod y gyfres enwog Jabas wedi arwain at ryddhau record gan Owain Gwilym a’r grŵp o Fôn, Mojo. 

Yn cynnwys tipyn o bopeth i bawb, albyms gan rai o’r mawrion ac albyms diddorol, anghofiedig bron, gan artistiaid a fu’n canu am gyfnod byr yn unig – mae’r cyfan yn rhan o’r recordiau difyr o archif Sain y 1980au. 

Mae prosiect digido archif \sain yn cael ei gefnogi gan Gronfa Her ARFOR sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.