Mae Maes Parcio, sef y band ifanc sydd ag aelodau o Arfon a Môn, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf sy’n fersiwn newydd o gân a ryddhawyd yn wreiddiol gan un o’r bandiau Cymraeg amlycaf.
‘Hapus’ ydy’r trac dan sylw, cân gan Topper, a oedd yn un o fandiau mwyaf Cymru ar ddiwedd y 1990au.
Ar ôl haf prysur o gigio, mae’r band pync-roc, Maes Parcio, yn rhyddhau sengl newydd i gloi’r flwyddyn – dyma eu cynnyrch cyntaf ers 2023.
Rhyddhawyd y trac ddydd Gwener diwethaf, 21 Tachwedd, i gyd-fynd â dathliadau yr Eisteddfod Rhyng-Gol yn Aberystwyth dros y penwythnos.
“Da ni heb ryddhau unrhyw beth ers ein EP yn 2023” eglura Gwydion Outram, prif leisydd y band.
“Ers hynna, da ni di bod yn gigio y mwya odd yn bosib. Roedden ni isio cover yn ein set, cover odd pobl yn nabod. Ar ôl trafod, natho ni adio ‘Hapus’ gan Topper.
“Ma Topper yn fand dylanwadol iawn yn y sin Roc Gymraeg a odda ni isio rhoi ein sbin ni ar gân mor eiconig.”
Wedi’i recordio yn Stiwdio Sain, mae ‘Hapus’ gan Maes Parcio allan ar label INOIS.