Mae un o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd, Buddug, yn ôl gyda’i sengl ddiweddaraf.
‘Malu Awyr’ ydy enw’r cynnig diweddaraf ganddi sydd allan ar label Recordiau Côsh ers dydd Gwener diwethaf, 2 Mai.
Mae Buddug, â enillodd bedwar gwobr yng Ngwobrau’r Selar ar ddechrau 2025, wedi bod yn gweithio’n galed yn stiwdio Ferlas dros y misoedd diwethaf ac wrth ryddhau’r sengl newydd, mae ei label wedi cyhoeddi bydd ei halbwm cyntaf yn cael ei ryddhau’n fuan haf yma.
Bydd y record hir yn cwblhau taith arbennig Buddug fel un o artistiaid mwyaf addawol Cymru a thu hwnt, gyda thraciau fel ‘Dal Dig’ ac ‘Unfan’ yn syfrdanu cynulleidfaoedd ac yn gwthio’r artist ifanc o Frynrefail i amlygrwydd.
Yn un o artistiaid cynllun BBC Gorwelion 2025, bu Buddug yn chwarae yn y Lower Third, Soho yn Llundain rai wythnosau yn ôl, gan dderbyn canmoliaeth gan gefnogwyr a’r diwydiant.