Ar ôl rhyddhau’r trac fel sengl yn ddiweddar, mae Harry Luke bellach wedi cyhoeddi fideo cerddoriaeth i gyd-fynd â’r gân boblogaidd, ‘Adlewyrchiad’.
Crëodd Harry argraff mawr yn ddiweddar ar gyfres deledu ‘Y Llais’ a chael ei ddewis i fod ar dîm Yws Gwynedd yn ystod rownd y ‘Clyweliad Cudd’ ar ôl dal y sylw wrth berfformio’r trac yr oedd wedi cyfansoddi ei hun.
Dywed Harry mai fideo DIY ydy hwn, gan mai ef sydd wedi ei gynhyrchu a chyfarwyddo ei hun, a’i saethu yn ei ardd gefn.