Martyn Peters yn rhyddhau sengl Gymraeg gyntaf

Mae’r cerddor Martyn Peters wedi rhyddhau ei sengl gyntaf yn yr iaith Gymraeg, ‘Hiraeth’. 

Artist cerddorol o Ddinbych ydy Martyn Peters ac mae wedi perfformio a rhyddhau cynnyrch yn y Saesneg cyn hyn. 

Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, ‘Veins’ yn 2017 ac ers hynny mae wedi bod ar sawl rhestr chwarae ‘A’ ar BBC Radio Wales, wedi cael cyfle i chware FOCUS Wales, wedi perfformio mewn sawl lleoliad yn Llundain ac wedi clywed ei gerddoriaeth yn cael ei chware ar BBC Radio 6 Music.

Er hynny, ‘Hiraeth’ ydy ei ymdrech gyntaf yn yr iaith Gymraeg ac mae allan yn ddigidol nawr.   

“Mae Hiraeth yn ymwneud â myfyrio ar gynlluniau a wnaed yn y gorffennol, gobeithio y byddant yn gweithio allan, yna edrych yn ôl a sylweddoli bod popeth wedi newid ac na allwch chi fynd yn ôl” eglura Martyn.

Recordiwyd y trac yn Orange Sound Studio ym Mhenmaenmawr, ac mae’n cynnwys Dafydd Cartwright ar y drymiau a Chris Walker ar y gitâr.