Osgled yn rhyddhau cynnyrch cyntaf

Mae’r prosiect cerddorol, Osgled, wedi rhyddhau sengl gyntaf. 

‘Camu yn ôl’ ydy enw’r trac sydd allan ar label BWGiBWGAN.

Prosiect cerddorol newydd y gantores a’r gyfansoddwraig, Bethan Ruth, ydy Osgled ac mae’n cyfuno haenau atmosfferig ac arbrofol gyda llais swynol llawn emosiwn. 

Wedi’i ysbrydoli gan y teimlad breuddwydiol hynny ar ôl bod mewn cyflwr o fwynhad, rhyddid a chyffro, mae sengl gyntaf Osgled yn cyfleu’r gwacter anochel sy’n dilyn. 

Cafodd y trac ei ysbrydoli gan y gerdd ‘Hiraeth’ gan y bardd a’r ymgyrchydd Gwyddelig, Michael Davitt, ac mae wedi ei gymysgu gan Llŷr Pari a’i fastro gan Iwan Morgan.