Mae’r canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd, Rhys Llwyd Jones, wedi rhyddhau ei chweched albwm.
‘sketches in blue’ ydy enw’r record hir ddiweddaraf gan y cerddor profiadol sydd allan ar ei safle Bandcamp.
Mae’r albwm yn cynnwys tair cân Gymraeg sef y senglau a ryddhawyd ymlaen llaw i gynnig blas o’r albwm.
Mae Rhys Llwyd Jones hefyd wedi datgelu y bydd yn cystadlu fel rhan o Frwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.
Dyma’r trac ‘pan wedes i’: