Mellt yn ail-ymweld â chaneuon a gollwyd ar EP newydd

Mae EP newydd y band o Aberystwyth, Mellt, allan ar label Grwndi Records ers 12 Rhagfyr, a dywed y band  ei fod yn gyfle i ail-ymweld â chaneuon sydd wedi llithro trwy’r rhwyd cyn hyn. 

‘Big Bird’ ydy enw’r record fer ddiweddaraf, a dilyniant i’w hail albwm, ‘Dim Dwywaith’ a ryddhawyd yn 2023. 

Mae’r record hir honno, ynghyd ag albwm cyntaf y band ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’ yn gofnod o hanes y tri aelod craidd wrth iddynt gael eu magu a dod i oed yn ardal Aberystwyth. 

Mae’r EP newydd yn ailymweld â chaneuon na gafodd eu cynnwys ar y ddwy record hir, ond sy’n parhau â’r un thema, a stori sy’n ganolbwynt i’r albyms. Gyda mwyafrif y recordiau hir yn y Gymraeg, mae’r record fer hefyd yn arwyddocaol fel casgliad cyntaf y band yn gyfan gwbl yn y Saesneg. 

Peintio darlun o Aberystwyth

Gellir dweud bod teitl-drac yr EP yn crynhoi’r hyn sydd ar y casgliad, fel yr eglura’r prif ganwr a gitarydd Glyn Rhys-James.  

“Mae’r sengl ‘Big Bird’ yn hen gân na chafodd ei defnyddio erioed am un rheswm neu’i gilydd ond un roedden ni wastad yn ei hoffi ac yn bwriadu gwneud rhywbeth gyda hi ryw ddydd” eglura Glyn. 

“Mae’r gân yn peintio darlun o Aberystwyth lle cawson ni ein magu, lle roedden ni’n byw pan ysgrifennwyd y gân yn wreiddiol.”

Dechreuodd Mellt yn 2014 pan ddaeth ffrindiau ysgol Glyn Rhys-James (llais/gitâr), Ellis Walker (llais/gitâr) a Jacob Hodges (drymiau) ynghyd i jamio yn nhŷ rhieni Rhys-James, gyda’r basydd Sam Brown yn ymuno’n ddiweddarach. 

Maen nhw wedi goroesi’r daith o’u harddegau i ddiwedd eu hugeiniau mewn ffordd nad oes llawer o fandiau’n ei wneud, gan ddogfennu pob cam newydd ar hyd y ffordd trwy eu cyfansoddiadau myfyriol. 

Penderfynodd Mellt i fanteisio ar y cyfle i ailymweld â syniadau caneuon a gollwyd yng nghanol taith y band hyd hyn. Er enghraifft, dechreuwyd y trac cynharaf, ac yr un olaf ar yr EP ‘Weatherman’, dros gyfnod Nadolig 2020 yn y sied, cyn ei diweddaru gyda chemeg a sgiliau cyfansoddi caneuon Mellt yn 2025.

Nôl at eu gwreiddiau

Gan ddilyn gwaith blaenorol y band, mae awyrgylch myfyriol ar waith ar draws EP Big Bird, gyda’r teitl drac yn llunio darlun o’u harddegau yn Aberystwyth a ‘Hey Kid’ a ‘Dig’ yn myfyrio ar fyrder ieuenctid.

Ond mae eu geiriau’n graffach, eu cyfansoddiadau’n fwy ‘groovy’, a’r caneuon yn gyfan gwbl fwy hyderus nag unrhyw beth maen nhw wedi’i wneud o’r blaen.

Mae fel pe bai gorffennol a dyfodol Mellt yn cwrdd yma, cyfle i oedi a’u cymodi cyn mynd i ble bynnag y mae eu momentwm aruthrol yn mynd â nhw nesaf.

Recordiwyd y traciau yn Giant Wafer, stiwdio breswyl yn Llandrindod. Am y tro cyntaf, fe wnaethon nhw gynhyrchu, peiriannu a chymysgu’r cyfan eu hunain, heb unrhyw ddylanwad allanol. Wedi’i recordio’n fyw a heb ‘click track’, roedd y broses yn llafur cariad, ond hefyd yn ddogfen o fand yn cael hwyl. 

“Mae yna gamgymeriadau, ac mae’n eithaf rhydd, sy’n debyg iawn i ni fel band” cyfaddefa Glyn. 

“Doedden ni ddim eisiau cael gwared o’r pethau yna eto fel y gwnaethon ni ar yr ail albwm.

“Mae’n mynd yn ôl at ein gwreiddiau, ac yn debyg i sut y bydden ni wedi recordio i ddechrau.” 

Dyma fideo’r trac ‘Big Bird’: