Osgled yn rhyddhau sengl newydd

Mae prosiect yr artist o Fachynlleth, Bethan Ruth, sef Osgled wedi rhyddhau ei sengl newydd.  ‘Traed Moch’ ydy enw’r sengl gyntaf i’w chymryd o’i EP, ‘Pydru Ymlaen’, a fydd yn cael ei rhyddhau yn ddiweddarach  yr haf hwn drwy label BWGiBWGAN.

Sengl newydd Osgled

‘Paid â deud’ ydy enw’r sengl newydd gan y grŵp amgen, Osgled. Prosiect cerddorol y gantores a’r gyfansoddwraig, Bethan Ruth, yw Osgled ac mae’n cyfuno haenau atmosfferig gyda’i llais swynol arbrofol.