Mae’r prosiect ‘pop positif’, Popeth, ar fin rhyddhau sengl newydd sy’n gydweithrediad gyda’r artist o Gwm Rhondda, Local Rainbow.
‘Celwydd’ ydy enw’r nawfed sengl gan Popeth, ac mae’n cael ei rhyddhau ar label Recordiau Côsh.
Popeth ydy prosiect diweddaraf y cerddor profiadol Ynyr Roberts, ac mae pob sengl ganddo’n ei weld yn ffurfio partneriaeth gydag artist arall.
Y diweddaraf o’r rhain ydy Local Rainbow, sef enw perfformio Rosie Reed o Tylorstown yng Ngwm Rhondda.
Mae Rosie yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Cwm Rhondda ac yn enw cyfarwydd mewn gigs yn Ne Cymru a’r Cymoedd yn arbennig. Eleni mae Local Rainbow wedi troi at ganu yn y Gymraeg am y tro cyntaf yn ei gigs, ac wedi mwynhau’r ymateb positif i’w chaneuon, ac yn enwedig felly ‘Dod Nol’ sydd wedi cael ei ffrydio ddegau ar filoedd o weithiau.
Mae ‘Celwydd’ yn addasiad o un o’r caneuon cyntaf i Rosie gyfansoddi, sef ‘Rumours’, ac mae fersiwn wedi’i ail gymysgu gan Popeth o’r gân honno hefyd yn cael ei rhyddhau ar 28 Mawrth.