Cyhoeddi manylion albwm newydd Carwyn Ellis & Rio 18

Mae Carwyn Ellis & Rio 18 wedi cyhoeddi manylion eu halbwm newydd. ‘Fontana Rosa’ ydy enw record hir ddiweddaraf y cerddor cynhyrchiol a bydd yn cael ei rhyddhau ddiwedd mis Mai.

Mae’r albwm newydd yn gweld prosiect Rio 18 yn dwyn dylanwad o gyfeiriadau ychydig yn wahanol gan gynnwys Chicano Soul, pop Nuyorica a disgo salsoul – synau Lladin sy’n llifo trwy wahanol ddiwyllianau yn yr UDA.

Mae modd rhag archebu’r record nawr ar safle Bandcamp Rio 18, gan gynnwys fersiwn nifer cyfyngedig fydd ar gael ar ffurf casét.

Mae’r albwm wedi’i recordio gyda’r cynhyrchydd amlwg, Liam Watson. Er mwyn cynnig blas o’r record hir, mae’r trac ‘Impossible’, sy’n cynnwys cyfraniad lleisiol Elan Rhys, ar gael yn ddigidol nawr. 

Gadael Ymateb