Mae ail EP Malan wedi glanio wrth iddi baratoi ar gyfer ei thaith i Ganada.
Bydd Malan yn gadael Caernarfon am Ganada fis yma, i gynrychioli Cymru gyda Gruff Rhys yng ngŵyl M for Montreal.
‘Right Here’ yw’r trac olaf i’w rhyddhau i gwblhau’r casgliad 5 trac o senglau a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Wedi’i gynhyrchu gan Rich James Roberts yn Ferlas, Penrhyndeudraeth, mae pob cân a ryddhawyd hyd yn hyn wedi bod yn llwyddiant, gan ennill cefnogaeth gan restrau chwarae Spotify a BBC Radio 1.
Gan gyfuno jazz, pop a bossa nova, mae ei chyfansoddi wastad wedi bod yn nodedig, a gyda llais arbennig i gyd-fynd, mae’n ymddangos nad oes diwedd ar ei thalent.
“Mae siwrne’r EP yma wedi bod yn un hir, ac mae ‘Right Here’ wir yn teimlo fel y fersiwn fwyaf gonest o fy sain hyd yn hyn” meddai Malan.
“Mae’n dod a phopeth dwi’n garu at ei gilydd – melodïau wedi’u hysbrydoli gan jazz, adrodd straeon, a chynhesrwydd sy’n teimlo’n onest i bwy ydw i ar hyn o bryd.
“Mae’n teimlo fel dechrau pennod newydd i mi, a gobeithio y byddwch chi’n ei fwynhau hefyd!”
Dyma’r trac ‘Dim Syniad’: