Mae band ifanc sydd â’u seiliau yn Aberystwyth wedi rhyddhau eu sengl gyntaf.
‘Pwythau’ ydy enw’r sengl newydd gan Yr Hunanol, sydd wedi’i ryddhau ar label Fflach Cymunedol.
Ymladd hwyr y nos, sgyrsiau lletchwith, cysylltiadau coll. Mae sylwebaeth Yr Hunanol, sydd weithiau’n llwm, bob amser yn ddoniol, ac yn aml yn deimladwy, ar ddiwylliant ieuenctid modern yn cael ei gyflwyno gyda chymaint o eironi a twang y gitâr, y byddech chi’n cael eich maddau am feddwl eich bod chi’n ôl yn nyddiau da indie yng nghanol y 2000au.
Gan frolio dilyniant cwlt o’u cartref yn Aberystwyth a’u cyrchfan bresennol yng Nghaerdydd, mae sioeau byw y band, gyda’r straeon anarferol, unawdau harmonica a rhythmau gwyllt, ynghyd â melodïau cofiadwy a riffiau gitâr tanboeth, yn creu profiad unigryw.
Mewn oes o hunan-hyrwyddo a hunan-ymglymiad, mae Yr Hunanol yn teimlo fel llais barddonol newydd, wedi’i osod yn lletchwith o fewn, ac ar wahân, i fywydau eu cyfoedion, gan wneud eu datganiadau di-hid a’u sylweddoliadau anecdotaidd yn glyfar er y gwingo; beirdd stryd ar gyfer y genhedlaeth sy’n aros gartref.
Yn nodweddiadol o ganeuon Yr Hunanol, mae ‘Pwythau’ yn atgof o ddigwyddiad wedi ei chwyddo yn archwiliad aml-haenog.
Mae Tom o’r band yn ei ddisgrifio fel “cân am symud ymlaen, a’r anallu i wneud.”
Mae’r band yn dathlu’r gân fel yr un gyntaf i’r pedwar chwarae gyda’i gilydd, a’r catalydd iddyn nhw ddod i nabod ei gilydd yn well.
Recordiwyd ‘Pwythau’ yn Cwrw Studio gyda’r cynhyrchydd Emyr Sion (Los Blancos) a Louis O’Hara yn peiriannu. Cymysgwyd y trac gan Emyr Sion, a mastrwyd gan Iwan Morgan.
Mae’r gwaith celf, sydd wedi ei ysbrydoli gan gylchgronau pulp, wedi’i ddylunio gan Steffan Dafydd (Penglog).