Mae Meinir Gwilym wedi rhyddhau ei halbwm diweddaraf sy’n gasgliad o ganeuon hen a newydd wedi eu recordio mewn noson arbennig yn Galeri Caernarfon ym mis Medi eleni.
Wedi 28 mlynedd o gyfansoddi a 23 mlynedd o recordio, dyma albwm byw cyntaf y gantores-gyfansoddwraig boblogaidd.
Wedi ei recordio o flaen cynulleidfa gynnes a gwerthfawrogol yn Galeri, dyma albwm bersonol, sy’n dangos Meinir ar ei gorau – ar y llwyfan ac ymysg teulu a chyfeillion.
“Does na’m byd fel cerddoriaeth fyw – mae ’na deimlad gwahanol ar recordiad byw o flaen cynulleidfa; rhyw wirionedd a gonestrwydd amrwd” meddai Meinir.
“Sialens bersonol i mi oedd gadael fynd ar y recordiad yma, yn aml mae na ddileu’r teimlad wrth drio dileu camgymeriadau… Felly dyma hi! Dwi’n gobeithio y ceith hi ei derbyn am be’ ydi hi – mi wnes i a’r band fwynhau ei chreu hi, felly gobeithio y gall y gwrandawr ei mwynhau hi hefyd!”
Dyma albwm sy’n cadw’n driw i berfformiad y noson ac yn gyfle i werthfawrogi eto ganeuon didwyll Meinir a pherfformiadau newydd o ambell i hen glasur.
Gyda band llawn, yn cynnwys Elis Derby (gitâr a phiano), Femi Akinde (drymiau), Seyi Akinde (bas), Ifan Rhys Williams (gitâr drydan), Siwan Mair (allweddellau), Ifan Emyr (offerynnau taro), Elin Taylor (cello), Euros Wyn (sacs), Tesni Hughes (corn), Betsan Ceiriog (llais cefndir) ac Elin Haf Gruffydd (llais cefndir), mae’r albwm yn daith drwy rai o ganeuon cynnar Meinir, rhai fel ‘Gormod’, ‘Fi, fi, fi’ a ‘Cymru, USA’, hyd at y caneuon mwy diweddar fel yr hyfryd ‘Dwi’m yn cofio’ a’r ddwy gân roddodd y llwyfan yn y Galeri ar dân, ‘Tân’ a ‘Chwarter i Hanner’.
Ar hyd y daith mae Meinir wedi mwynhau cyd-berfformio, ac roedd recordio albwm byw yn gyfle iddi ganu gyda’i mam, Sioned, ar gân sydd yn un deuluol mewn mwy nag un ystyr – mae ‘Hon yw Mharadwys i’ wedi ei chyfansoddi gan daid Meinir, Tecwyn Gruffydd, a’i mam Sioned, ac yn daith yn ôl mewn amser ac yn daith llythrennol ar hyd y llwybrau lle cafodd Meinir ei magu.
Mae cyfnither Meinir, Elin Haf Gruffydd, yn ymuno gyda hi i gydganu “yr unig gan serch go iawn” iddi ei chyfansoddi meddai hi, sef ‘Hetiau’, tra bod cyfle i ddathlu chwaeroliaeth a chyfeillgarwch yn fersiwn byw Pedair o ‘Cân y Clo’. Ar ‘Siglo dy Sail’ mae Gwenan Gibbard yn ymuno ar y delyn ac Elis Derby yn cyfrannu llais a gitâr ar fersiwn newydd o glasur Geraint Jarman, ‘Pethau Brau’.
Yn ol yn 2003 cafodd Meinir wahoddiad gan Ynyr ac Eurig, brodyr Epitaff a Brigyn, i recordio gyda nhw. Y gân oedd ‘Curiad’, yn adleisio atgofion am jazz New Orleans, ac roedd y derbyniad yn wresog pan gafwyd aduniad cerddorol ar lwyfan Galeri a Meinir a’r brodyr yn ôl gyda’i gilydd unwaith eto yn perfformio yn fyw.
Yn binacl i’r noson cafwyd perfformiad cofiadwy gan Meinir a Cleif Harpwood o glasur arall, yn deyrnged i Dewi Pws. Yng ngeiriau Meinir, “roedd Dewi yn anhygoel, yn gefnogol, yn annwyl, yn ffraeth, ac yn heclwr heb ei ail! 50 mlynedd ers i gân wych Dewi, ‘Neb ar Ôl’, gael ei recordio gan Edward H yn Stiwdio Gwernafalau, braint oedd cael canu hon efo Cleif – cymwynaswr, seren, gŵr bonheddig a thalent di-ddiffodd.”
Mae’r albwm allan ar label Sain ac yn ddathliad o gyfraniad Meinir i’r sîn gerddorol yng Nghymru, ac a fydd yn ôl y label yn cyffwrdd, yn llonni ac yn ysbrydoli.