Mae Rhi Jorj wedi rhyddhau ei halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 7 Tachwedd.
‘Ysgafn’ ydy enw’r record hir newydd ganddi sydd allan yn ddigidol yn unig am y tro, ond fydd ar gael ar ffurf CD hefyd ar 22 Tachwedd.
Bydd gig lansio i gyd-fynd â dyddiad rhyddhau’r fersiwn CD, wrth i Rhi berfformio yn Neuadd Llangywer ger Y Bala.
Roedd Rhian yn aelod o’r band ‘UST’ yn y 90au, sy’n fwyaf cyfarwydd am eu cân ‘Breuddwyd’ sy’n dal i gael ei chwarae’n rheolaidd ar y tonfeddi. Roedd hefyd yn aelod o’r band Amledd gyda’i gŵr, y feiolinydd amlwg Billy Thompson, gan ryddhau’r albwm ‘Cyfnod Cyntaf’ yn 2006.
Wedi hynny rhoddodd y gerddoriaeth i’r naill ochr nes iddi gael ei hysgogi i fynd ati i gyfansoddi eto ar ôl cael diagnosis o glefyd Addison ym Mhasg 2023. Penllanw hyn oedd rhyddhau’r EP ‘Amser’ ym mis Mawrth eleni a bellach mae’n barod i ryddhau albwm llawn o ganeuon.
Mae 12 o ganeuon yn cynnwys y dair oedd ar yr EP, a rhain yn reit amrywiol yn ôl yr artist.
“Rhai mwy Ustaidd na’i gilydd a trac ‘Marrakesh’ yn hudolus efo rhythm cŵl yn lapio amdnanach di” meddai Rhi Jorj.
Ers rhyddhau’r EP mae Rhi wedi bod yn brysur yn perfformio’n fyw ac yn ysgrifennu mwy o ganeuon, a ffrwyth ei llafur ydy ‘Ysgafn’.
Mae cymysgedd steil o gerddoriaeth yma yn llawn alawon a melodiau sy’n llifo yn synhwyrol trwy’r gerddoriaeth. Rhai gyda feiolin Billy Thompson yn creu cynnwrf yn nghanol sain arbennig y band ac yna llais unigryw Rhi yn asio y cyfan gyda’i geiriau meddylgar a chofiadwy.
Mae’r albwm newydd ar safle Bandcamp Rhi Jorj, ynghyd â’ llwyfannau digidiol eraill arferol.
Bydd gig lansio yr albwm yn Neuadd Llangywer ar yr 22 Tachwedd – a bydd copïau CD o’r albwm ar gael bryd hynny, ynghyd ag yn Awen Meirion lle bydd Rhi yn perfformio hefyd.
Dyma ail drac yr albwm, ‘Cân Llyn Tegid’: