Mae cyn enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru, Sara Davies, wedi ryddhau ei halbwm newydd .
‘Sara’ ydy enw’r albwm hunan-deitlog sydd allan ar label Coco & Cwtsh.
Enillodd Sara gystadleuaeth Cân i Gymru yn 2024 gyda’r trac ‘Ti’ a dyma ydy ei chynnyrch swmpus cyntaf ers hynny.
Dros y misoedd nesaf, bydd Sara yn teithio Cymru i hyrwyddo’r albwm, gyda’r band Dadleoli yn ymuno â hi yn ystod lansiad y record yn stiwdios Coco & Cwtsh yn Sir Gâr ar Nos Wener, 20 Mehefin.
Mae’r albwm yn llawn o ganeuon y mae’r gantores wedi bod yn ysgrifennu dros y blynyddoedd. O ‘Gadael y Nyth’ i ‘Chwilio’ a ‘Rhydd’, mae’n albwm personol sy’n cwmpasu taith Sara o adael ei chartref teuluol a dyddiau coleg hyd at heddiw.
Mae’r record yn gwbl ddwyieithog gyda phob cân wedi’i recordio yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Taid yn ddylanwad
“Mae gwreiddiau sawl un o’r caneuon yn mynd mor bell yn ôl a 2018 pan nes i ddechrau sgwennu o ddifri ond ddim yn siŵr ble i fynd â nhw ac yna ma coleg a bywyd yn cymryd drosodd” eglura Sara.
“Ond ar ôl ennill Cân i Gymru dyma fynd ati i’w recordio nhw’n iawn efo tîm o gynhyrchwyr a cherddorion talentog ac arbennig sydd wedi cyfoethogi’r sŵn a dod â’r caneuon yn fyw.
“Dwi mor falch ei bod hi allan rŵan ac yn hynod o falch ohoni. Gobeithio wneith pobl fwynhau.”
Nid Sara yn unig all gymryd y clod am y sgwennu, gan fod sawl cân ar yr albwm yn defnyddio geiriau ei thaid, Gareth Vaughan Davies, a fu farw yn 2021.
Ef oedd y rheswm iddi gystadlu yng Nghân i Gymru’r llynedd gyda’r gân ‘Ti’ – wedi iddo ragweld y byddai hi’n ennill y tlws ryw ddydd. Er na chafodd Gareth ei gweld yn ennill, fe wnaeth ei eiriau, ynghyd â cherddoriaeth Sara, gipio’r wobr ac ennill calonnau miloedd o bobl ar draws Cymru.
“Taid sgwennodd geiriau rhai o’r caneuon ar yr albwm hwn hefyd” meddai Sara.
“Rhai lle dwi heb newid y geiriau o gwbl a rhai lle mae ei gerddi wedi helpu imi gael ysbrydoliaeth. Dwi’n meddwl byse fo’n falch iawn o’r albwm ac mae hynny yn ei hun yn fy ngwneud yn hapus.”
Albwm anarferol
Cafodd yr albwm ei drefnu gan y cerddor Rhys Taylor a’i gynhyrchu a recordio gan Branwen Munn yn stiwdio Coco & Cwtsh yn Sir Gâr.
Yn ôl Branwen, mae steil yr albwm a’r modd y cafodd ei recordio yn anarferol yn y byd pop masnachol sydd ohoni ac mae hyn yn ei hun yn rhywbeth arbennig ac unigryw.
“Mewn oes lle mae offerynnau digidol a gwaith ôl-gynhyrchu yn cael eu defnyddio’n eang yn y byd pop, mae Sara wedi cofleidio grym recordio byw gyda band ac offerynnau byw” meddai Branwen.
“Mae rhywbeth arbennig iawn am y dwyster a’r dilysrwydd sy’n deillio o ddal egni lleisiau ac offerynnau byw. Mae’n rhoi cyfoeth unigryw i’r caneuon sy’n wirioneddol amlygu dawn leisiol Sara ac yn gwneud i’r albwm sefyll mas mewn ffordd hardd ac organig.”
Bydd taith o amgylch Cymru’n cyd-fynd a’r albwm newydd, gyda’r band Dadleoli yn cefnogi Sara yn lansiad arbennig yr albym yn stiwdios Coco & Cwtsh ar nos Wener, 20 Mehefin.
Bydd dyddiadau a lleoliadau gweddill y daith yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.
“Dwi methu aros i deithio’r albwm o gwmpas Cymru” ychwanegodd Sara.
“Dwi wedi bod yn canu’r caneuon ers sbel mewn gigs a chyngherddau efo lot yn holi am CD’s neu ble alla nhw glywed y caneuon yn ddigidol. O’r diwedd mae gen i ateb, a dwi’n edrych ymlaen at eich gweld chi mewn lleoliadau lu o gwmpas y wlad dros y misoedd nesaf ac i rannu cerddoriaeth Taid a fi efo’r byd!”