Mae’r band Cordia wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Delio Efo’r Diafol’ ydy enw’r trac newydd gan y triawd wrth iddynt hefyd baratoi i ryddhau eu halbwm newydd fis nesaf.
Cordia ydy Ffion Elin Davies, Ffion Wynn Davies a Manon Fflur Williams a daeth y band i amlygrwydd yn wreiddiol rhyw ddegawd yn ôl. Llwyddodd y triawd i gipio teitl Cân i Gymru yn 2016 gyda’r gân ‘Dim ond Un’, gan hefyd ryddhau’r EP pump trac ‘Tu ôl i’r Llun’ ar ddiwedd y flwyddyn honno.
Wedi cyfnod hesb, daeth y band nôl at ei gilydd yn ystod 2024 gan ryddhau’r sengl ‘Sylw’ ym mis Medi.
Yn ôl Cordia, ‘Delio Efo’r Diafol’ fydd sengl olaf y babd cyn rhyddhau’r albwm llawn, ac mae’’n wahanol i’r senglau eraill maent wedi rhyddhau ers ail-ffurfio.
Mae’r gân wedi’i recordio yn Stiwdio Tyn Rhos ar Ynys Môn ac wedi’i chynhyrchu gan Rhys Jones.
“Prif ysbrydoliaeth y gân yma oedd un o ganeuon Sabrina Carpenter” eglura Ffion.
“‘Da ni’n ffans mawr ohoni ac odda ni’n licio sŵn y gitar mae hi’n ddefnyddio mewn amball un o’i chaneuon oddi ar ei halbwm diweddar ‘Short and Sweet’ ac felly dyma sbardunodd y syniad cychwynol gan Rhys Jones”
“Syniad y geiriau ydi i anwybyddu’r ‘llais’ sydd yn dy ben weithiau sydd yn dy gadw di fyny yn y nos. Mae’r gân yn adlewyrchu ar y teimladau yna ac yn deud i ti “Ddelio efo’r Diafol sydd yn gafael yn dynn ac ymladd i droi’r hunllef yn freuddwyd.”
“Mae’r math o gân sydd am neud i ti deimlo’n gryf ar ôl ei chlywed a gobeithio yn gân sydd yn helpu rhywun i “Ymladd i fod yn well na’r diafol”” ychwanega Ffion.
Dywed y band eu bod bellach wedi gorffen recordio’r albwm ac yn barod i’w ryddhau fis nesaf.