Rhyddhau sengl Betsan ar UNTRO

Betsan ydy enw’r artist diweddaraf i ryddhau cerddoriaeth ar label UNTRO – y chweched artist i wneud hynny hyd yma. 

Yn dilyn rhyddhau senglau cyntaf Cyn Cwsg, BERIAN, Ffion Campbell-Davies, Lleucu Non a Coron Moron dros y ddeunaw mis diwethaf, nawr dyma weld ffrwyth llafur cydweithrediad newydd gyda’r gantores Betsan (Betsan Lees). 

‘Awst’ ydy enw sengl Gymraeg cyntaf gyntaf Betsan. 

O Gaerdydd yn wreiddiol, mae Betsan bellach yn ysgrifennu ei chaneuon serch o’i hystafell wely yn Llundain. 

Ers rhyddhau ei sengl Saesneg gyntaf, ‘Keeping Score’, ar ddechrau’r flwyddyn, mae wedi parhau i daflu ei theimladau ar bapur gan blethu melodïau moethus gyda harmonïau hyfryd. 

Ifan Pritchard yn cynhyrchu

Gan ddwyn dylanwad (pop neo-soul) gan artistiaid fel Olivia Dean, Eloise a Nectar Woode, dywed Betsan ei bod wedi cyfansoddi ‘Awst’ yn wreiddiol i ffrind. 

“Ysgrifennais ‘Awst’ i fy ffrind gorau ar ôl iddo golli rhywun yn sydyn” eglura Betsan. 

“Mae’r gân yn sôn am eisiau bod yno iddo fe fel mae o wedi bod i mi yn y gorffennol ac mae’n fy atgoffa o fis Awst, ‘y golau rhag y du’, yn ‘gysgodi rhag y glaw’”. 

Wedi’i guradu gan Klust yn dilyn cefnogaeth gan Gronfa Lansio BBC Gorwelion fis Ionawr, cafodd y trac ei gynhyrchu gan Ifan Pritchard. 

“Roedd gweithio efo Ifan yn brofiad gwych — dwi’n dwlu ar ei syniadau a’r ffordd mae o’n ysgrifennu” ychwanega Betsan.  

“Dwi’n falch iawn gyda sut daeth y gân at ei gilydd ac yn lwcus i allu gweithio gyda rhywun mor dalentog. Mae’r ddau ohonom ni’n ffans o Lizzy McAlpine, ac mae’r gân yn cymryd ysbrydoliaeth o’i halbwm diweddaraf. Dwi’n hynod o ddiolchgar i Klust am y cyfle i ryddhau fy nghân Gymraeg cyntaf gydag UNTRO.”

Bydd hefyd fideo arbennig, wedi’i gefnogi gan Gronfa Fideos PYST a S4C, yn cyd-fynd â’r gân yn dilyn ymhen rhai wythnosau.  

Bydd ‘Awst’ yn ymddangos ar record feinyl ‘Selar3’ fydd yn cael ei ryddhau i aelodau Clwb Selar dros y misoedd nesaf!

Dyma ‘Awst’: