‘Trio Eto Yfory’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf i’w rhyddhau gan Sylfaen.
Sylfaen yw prosiect cerddorol Ifan Rhys Williams, gitarydd y band Achlysurol a brawd i’r artist poblogaidd, Alys Williams.
Y syniad gwreiddiol oedd cydweithio gyda rhai o gantorion mae’n gallu eu galw’n ffrindiau, i roi llwyfan i’r caneuon mae’n ei ’sgwennu. Gyda’r catalog yn cynyddu, mae’r amser a’r hyder wedi dod i Ifan roi cynnig ar ganu’r gân nesaf ei hun.
“Hon ydi’r gân cynta’ i mi ganu fy hun o dan brosiect Sylfaen” meddai Ifan.
“Roeddwn i’n awyddus i ganu hon gan fy mod i’n ffeindio hi’n anodd i fynd i gysgu – thema’r gân yn rhywbeth sy’n agos at adra llu. O’n i ’di sgwennu’r geiria’ yn ofnadwy o sydyn fyd (rhan fwya’ o’r geiria o fewn awr). Dwi ’di trio bob dim ond ddim yn cael llawer o hwyl arni!
“Yn sgwennu hon o’n i’n gobeithio ffeindio pobl eraill sy’n yr un gwch a rhoi gwbod iddyn nhw bo’ nhw ddim eu hunain.”