Rhyddhau sengl ddiweddaraf Chwaer Fawr

Mae Chwaer Fawr, sef prosiect unigol Mari Morgan, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, wrth baratoi i ryddhau albwm cyntaf. 

‘Byw yn ôl y Sôn’, ydy enw’r drydedd sengl i lanio gan Chwaer Fawr, ac mae allan ar label Klep Dim Trep.

Dyma’r sengl olaf cyn rhyddhau ei halbwm cyntaf ar 27 Mehefin, ac mae’n gam i gyfeiriad gwahanol i’r ddwy sengl gyntaf, wrth i Mari droi at synths ac allweddellau i greu sŵn mwy agored a myfyriol. 

Mae digon o fynd i’r trac serch hynny, wrth i’r peiriant drymiau rygnu mlaen drwy gydol y gân, gan adlewyrchu rhybudd Mari tua’r diwedd i gadw fynd â pheidio edrych nôl.

Mae llais Mari i’w glywed yn glir yma, nid yn unig drwy’r geiriau ond drwy’r offerynnau hefyd, cyn y daw ei chôr cyfarwydd o gydweithwyr (Gruff ab Arwel, Alex Morrison a Gwion Llewelyn) yn ôl i ymuno â hi yn y gytgan olaf. Esyllt Angharad Lewis sydd unwaith eto’n gyfrifol am y gwaith celf.

Daw’r sengl ddiweddaraf i ddilyn ‘Mabolgampau’ a ryddhawyd ddechrau mis Mehefin a ‘Diwedd’ a ryddhawyd ym mis Mai. 

‘Diwedd’ fydd enw albwm cyntaf Chwaer Fawr hefyd, a bydd allan ar 27 Mehefin ar feinyl a CD nifer cyfyngedig, yn ogystal ag ar y llwyfannau digidol arferol. Mae modd rhag-archebu’r albwm nawr ar safle Bandcamp Chwaer Fawr.