Mae’r ddeuawd ifanc o Ddyffryn Teifi, Chwaer, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ar label Fflach Cymunedol.
‘Paid Troi Dy Gefn’ ydy enw’r sengl sydd allan ar yr holl lwyfannau digidol arferol ers dydd Gwener diwethaf, 13 Mehefin.
Mae ‘Paid Troi Dy Gefn’ yn faled bwerus gan y ddeuawd sy’n rhoi llwyfan i’w lleisiau anhygoel a’u cyfansoddi medrus.
Yn ôl Fflach Cymunedol, dyma hefyd yw’r sengl gyntaf mewn cyfres i’r label newydd dan y faner ‘SYMUDIADAU’, fydd yn rhoi sylw i fandiau ac artistiaid newydd dros y misoedd nesaf.
Chwaer yw’r chwiorydd Emma a Lucy Davies-Warhurst. Gyda’u perfformiadau a’u cyfansoddi aeddfed, dwys, a meddylgar, mae’n anodd credu bod y ddwy’n ddisgyblion ysgol — Emma yn Aberteifi a Lucy ym Mro Preseli.
Ers dechrau perfformio fel Chwaer yn 2024, mae’r ddeuawd wedi bod yn cyfansoddi caneuon anthemig fel ‘Paid Troi Dy Gefn’ a’r sengl ‘I’r Nefoedd’ a rhyddhaodd Emma fel artist unigol yn gynharach eleni.
Mae’r band wedi chwarae fel deuawd yng Ngŵyl Triban eleni, ac yn edrych ymlaen at chwarae yng Ngŵyl Fach Aberporth ar 21 Mehefin.
Yn rhannol yn faled biano, yn rhannol chamber-pop epig, mae ‘Paid Troi Dy Gefn’ yn “synfyfyrio ar amseroedd anodd mewn bywyd pan mae angen ffrindiau”. Yn dechrau fel archwiliad personol, mae’r gân yn tyfu erbyn y gytgan olaf i fod yn ffrwydrad enfawr o emosiwn.
Mae Fflach Cymunedol wedi gweithio unwaith eto gyda’r cynhyrchydd Reuben Wilsdon-Amos er mwyn cael y sŵn mawr mae’r sengl yn ei haeddu.
Pwrpas clwb senglau Fflach Cymunedol, SYMUDIADAU, yw dathlu artistiaid newydd yn Ne Orllewin Cymru. Wedi ei enwi fel teyrnged i Ail Symudiad, band y brodyr Richard a Wyn a sefydlodd y label, mae’r prosiect yn ffordd o dynnu talent o bob math i mewn i’r label, gan gyflwyno cynulleidfa i gerddoriaeth newydd, a rhoi profiad i artistiaid o ryddhau gyda’r label.
Sengl gyntaf Chwaer yw SYMUDIADAU 001, a bydd mwy o senglau yn cael eu rhyddhau dros y misoedd nesaf.