Mae band newydd o’r enw mac. wedi rhyddhau eu cynnyrch cyntaf ar label recordiau JigCal.
‘Cam Un’ ydy enw sengl gyntaf mac. sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 14 Tachwedd.
Ar ôl ennill enw da am eu perfformiadau egnïol a’u caneuon cyflym, mae ‘Cam Un’ yn cynrychioli sain amrwd y band.
Yn cyfuno dylanwadau ‘punk’ a ‘garage rock’ gyda geiriau gonest, mae’r trac yn dangos aeddfedrwydd mac. fel band.
“Efo pob cân, da ni’n chwilio i ysgrifennu rhywbeth cofiadwy efo ffocws ar y geiriau, ond yn enwedig rhywbeth sy’n cyfieithu’n dda’n fyw” meddai Osian, gitarydd y band.
“I ni, mae ‘Cam Un’ yn neud pob un o’r pethau yma, ac oedd yr ymateb gafo’ ni yn gigs yn atgyfnerthu’r teimlad fod hyn yn ddewis cywir ar gyfer sengl cyntaf.”
Y newyddion pellach gan y band ydy bod eu EP cyntaf, ‘Wrth y Ffin’, i ddilyn yn fuan iawn ar 28 Tachwedd.