Cleif Harpood a Lowri Evans yn cyd-weithio

Yn dilyn cyfnod o 45 o flynyddoedd ers recordio ‘Plant y Fflam’, albwm olaf Edward H Dafis, mae prif leisydd y band, Cleif Harpwood, wedi dychwelyd i’r stiwdio i recordio casgliad o 11 o ganeuon, i’w rhyddhau yn ystod 2025-2026.

Mae’r blas cyntaf o’r record hir allan nawr ar ffurf sengl sy’n gweld y cerddor profiadol yn ffurfio partneriaeth gyda Lowri Evans. 

Mae ‘Tyrd i Edrych’ yn perthyn i gyfnod cynnar Edward H Dafis, ac fe recordiwyd y fersiwn wreiddiol gan y band yn stiwdio enwog Rockfield yn 1973. 

Awdur a chyfansoddwr y gân oedd y diweddar Dewi Pws Morris. Recordiwyd y fersiwn hon yn StudiOwz, Sir Benfro, ac mae’r cerddorion sy’n perfformio arni yn bennaf o’r ardal honno. 

“Diolch i’r gantores boblogaidd Lowri Evans o Drefdraeth am gytuno i ymuno â mi i dalu teyrnged i gyd-gerddor a chyfaill arbennig iawn” meddai Cleif.  

“Braint hefyd oedd cydweithio â Geraint Cynan, y cynhyrchydd a’r trefnydd cerdd ar y recordiad, a Lee Mason, sydd wedi cyfrannu’n helaeth fel cerddor a pheiriannydd. 

“Dyma un o gampweithiau Dewi, a phleser o’r mwyaf yw ei chyflwyno er cof amdano.”