Mae trefnwyr gŵyl flynyddol Llanast Llanrwst wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad eleni.
Dydd Sadwrn 29 Tachwedd fydd prif ddiwrnod yr ŵyl sy’n gweld artistiaid yn perfformio mewn lleoliadau amrywiol yn nhref farchnad Llanrwst.
Bydd TewTewTennau, Lo-Fi Jones, Tawaeth, Garry Hughes, Elliw ac Alaw, Hafna, Cam Gwag, Llan Werin, Yr ‘Iffs a Tom Taylor ymysg yr artistid sy’n perfformio.
Y lleoliadau sy’n cael eu defnyddio ydy New Inn, Llywelyns, Pen Bryn, Gwesty’r Eryrod, Y Llew Coch a Chlwb Llanrwst.