Mae’r cerddor Rhys Dafis, sy’n disgrifio ei gerddoriaeth fel ‘tiwns trist’, wedi rhyddhau ei sengl newydd.
‘Fel Deryn’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddo ac fe ddaeth y gȃn i fodolaeth pan oedd yr artist yn y brifysgol, yn oriau mȃn y bore ar noson ddi-gwsg.
Mae elfen o chwerwder yn y gȃn wrth iddo gofio am rywun sydd wedi cefnu arno, ond mae’r diweddglo ewfforig yn gymodlon, gyda’r posibilrwydd o aduniad yn cynnig llygedyn o obaith.
Fe recordiwyd y trac gyda Frank Naughton yn Stiwdio Tŷ Drwg, gyda’r cerddorion Ioan Gwyn, Gwern ab Arwel a Gruff Owen ar y bas, allweddellau a’r drymiau.
Mae ‘Fel Deryn’ yn ddilyniant i’r sengl ‘Trigo’ a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni, a fel y sengl honno fe grëwyd y gwaith celf gan Esyllt Lewis.
Mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl, wedi ei ariannu gan gronfa fideos PYST x S4C.
Cyfarwyddwyd fideo ar gyfer y gân gan Owain Jones, fe’i ffilmiwyd gan Gareth Bull, ac mae’n dilyn hynt a helynt ysbryd sy’n edrych am ffrindiau.