Mae Rhys Gwynfor wedi rhyddhau ei sengl newydd – ‘Synnwyr Cyffredin’ ydy enw’r gân ddiweddaraf i lanio gan yr artist carismatig.
Mae Rhys yn cael ei adnabod fel sgwennwr hits o fri ac wedi bod yn gyfrifol am nifer o ganeuon poblogaidd dros y blynyddoedd, ac mae nôl gyda thrac arall sy’n debygol fod yn ffefryn ar y tonfeddi.
Recordiwyd ‘Synnwyr Cyffredin’ yn stiwdio Sain gyda’i ffrindiau a chyd aelodau ei fand sef Ifan Emlyn ac Osian Williams.
Mae’r gân yn llawn melodïau bachog a chynhyrchu ‘nostalgic’, ac mae hwn yn drac arall sy’n siŵr o blesio’r ffans ffyddlon a hefyd clustiau newydd.
Yn ddiweddar, daeth Rhys yn dad am y trydydd tro gyda’i wraig, y cyflwynydd a chantores, Lisa Angharad. Er hynny, penderfynodd ddychwelyd i’r llwyfan dros yr haf i chwarae llond llaw o gigs, gan gynnwys gig er cof am Dewi Pws yn Eisteddfod Wrecsam.
‘Synnwyr Cyffredin’ yw’r nawfed cân i Rhys ryddhau ar label Recordiau Côsh, a gydag addewid am albwm ers rhai blynyddoedd, bydd y canwr yn dychwelyd i’r stiwdio’n fuan i gwblhau’r traciau olaf.