Mae dau gerddor ifanc wedi cyd-weithio ar sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener 17 Hydref.
Iestyn Gwyn Jones a Paul Magee ydy’r artistiaid dan sylw, a ‘Blagur’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar Label Amhenodol, sef y label sy’n cael ei redeg gan Iestyn ei hun.
Ar ol pythefnos yn Iwerddon gyda’i gilydd yn gweithio fel Mentoriaid Cerddoriaeth ac Athrawon Cymraeg mewn Coleg Gwyddelig (TG Lurgan) yn Connemara, Galway, mae’r ddau wedi ysgrifennu a recordio cân newydd sbon sydd wedi ei hysbrydoli gan eu profiadau.
“O fod yn dysgu Cymraeg i bobl ifanc Iwerddon a dechrau dysgu’r iaith Wyddelig, mae hi wedi bod yn agoriad llygad anferth i’r ddau ohonom ni o’n diwylliant ein hun ochr yn ochr ag Iweddon” meddai Iestyn Gwyn Jones.
“Ry’n mewn lle cymaint tebycach i’n gilydd na’r disgwyl.”
Bu’r ddau yn dysgu Cymraeg i griw o tua 400 o bobl ifanc Iwerddon a chael profi cyfnewid diwylliannol llwyr rhwng traddodiadau a iaethoedd y ddwy wlad.
“Un o’r profiadau sy’n siŵr o aros yn y cof yw mynd i noson Shanos yn Tigh Mholly a chlywed canu caneuon traddodiadol yn ddigyfeiliant yn y dafarn” meddai Paul Magee.
“Roedd hi’n anhygoel gweld yr angerdd ac emosiwn am streon lleol a’r parch o fewn tawelwch y dafarn wrth i bawb wrando ar y rhai fu’n cymryd rhan.
“Roedd yr awyrgylch yn hudol a dwi’n edrych ymlaen i gael ail-fyw’r profiad yn y dyfodol.”
Mae’r gân ‘Blagur’ wedi tarddu gan noson o wylio’r sêr wrth gerdded hebio’r fynwent (‘Reilig’) at y traeth a defnydd o’r ddelwedd yma fel trosiad am sefyllfa’r ddwy iaith, sef y Gymraeg a’r Wyddeleg.
Ceir cyfeiriad at hyn yng ngeiriau’r gân:
“Ar y llwybr hyd y fynwent, Gair mewn uniaith ar y bedd.
A’r giat yn gul-agored, a hawdd fydd camu fewn.”
Mae’n gân o obaith dros ddyfodol y Gymraeg a Gwyddeleg gan gynnwys ambell linell bwerus yn yr Wyddeleg ynghyd â sôn am unigolion fu’n rhannu’r daith gyda nhw.
“Ma’ Darren dal i gwyno am fo’r Guinness dal yn ddrud!”
Dyma’r tro cyntaf i Paul a Iestyn gyd-weithio ar gân ac mae’r ddau yn edrych ymlaen at ddatblygu mwy gyda’i gilydd wrth symud ymlaen.