Wrth i’r band nodi deng mlynedd ers eu ffurfio, mae Alffa wedi rhyddhau eu sengl newydd sbon, ‘Disgrazia’.
Alffa ydy’r ddeuawd Dion Jones a Sion Eifion Land.
Fis Tachwedd yma, bydd y band yn dathlu deng mlynedd o greu roc beiddgar a thrydanol – ac maen nhw’n cychwyn y dathliadau wrth ryddhau’r sengl newydd.
Mae’r trac yn deillio o berfformiad bythgofiadwy’r band yng Ngŵyl Morborock ym Morbegno, yr Eidal y llynedd, lle bu dros fil o bobl yn eu gwylio – un o gigs mwyaf diffiniol eu gyrfa hyd yma.
“Roedd popeth am y noson honno’n teimlo fel rhyddid,” meddai’r band.
“Gadawon ni bopeth ar ôl ar y llwyfan, rhoi popeth oedd gennym ni, a byw yn y foment. Cariodd yr egni hwnnw ymlaen yn syth i’r gân.”
Wedi’i enwi ar ôl Monte Disgrazia, mynydd sy’n gawr uwchben Morbegno, mae’r trac yn adlewyrchiad o’r profiad hwnnw a’r hyn y mae’r lle wedi dod i’w olygu iddyn nhw – symbol o ryddid, hyder, a greddf greadigol pur.
“Ma’n ein hatgoffa ni mai rhyddid – rhyddid go iawn – yw’r fraint fwyaf sydd gennym ni. A dyna beth yw Disgrazia.”
Bydd Alffa yn dychwelyd i Morbegno fis Hydref am fwy o sioeau byw, law yn llaw â gig yng Nghaernarfon a pherfformiad arbennig yng Ngŵyl SUNS Ewrop yn Udine, yr Eidal – rhan o ymgyrch ehangach yn dathlu degawd o gerddoriaeth, iaith a momentwm.
‘Disgrazia’ yw’r deunydd cyntaf i gael ei ryddhau ers eu halbwm ‘O’r Lludw / From Ashes’ yn 2024, a enillodd ganmoliaeth am ei egni ffyrnig a’r cyfansoddi beiddgar.