Bydd y cynhyrchydd enigmatig, Alaw, yn dychwelyd efo’i sengl newydd, ‘Respite’, sydd allan ers dydd Gwener 25 Ebrill ar label INOIS.
Dyma’r sengl gyntaf iddi rhyddhau ers ‘Before I Go / Be Seeing U’ yn 2022.
Fe ddaliodd y traciau hynny sylw’r sin gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt, gydag Adam Walton yn eu chwarae ar BBC Radio Wales a hefyd Huw Stephens ar ei raglen ar BBC 6 Music.
Yn debyg i lawer o gynhyrchwyr hip hop, mae Alaw yn gadael i’w cherddoriaeth wneud y gwaith, gyda’r rhan helaeth o’i set byw heb ei ryddhau.
Yma, mae Alaw yn datblygu ar sain ei senglau cyntaf, yn defnyddio samples arbennig sy’n dangos ei chrefft fel cynhyrchydd.