Sengl newydd Tara Bandito

Mae Tara Bandito wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf. 

‘Marginally Mad’ ydy enw’r gân ddiweddaraf ganddi sydd allan ar label Recordiau Côsh. 

Daw’r sengl newydd yn dilyn llwyddiant ei sengl ddiwethaf ‘Trw Nos’ gyda Band Pres Llareggub a ryddhawyd ym mis Chwefror eleni –  roedd hefyd fideo unigryw yn cyd-fynd a’r trac sydd wedi ei  gyfarwyddo gan Tara ei hun.  

Trac Saesneg ydy  ‘Marginally Mad’ ond mae addewid a gyfieithiad Cymraeg ‘Wallgo’ i ddilyn yn ystod mis Mai. 

Gyda’i naws sinematig, egni Tarantino a’i hooks cofiadwy, mae’r trac eisoes wedi creu argraff fawr mewn gigs a gwyliau yng Nghymru a thu hwnt, ac yn nodi cyfeiriad creadigol newydd i Tara. 

“Mae’r trac yn golygu perchnogi’r labeli ma’ bobol yn taflu atoch a’u troi yn arf” meddai Tara.

“Os ma’ rywun isho galw fi’n wallgo’, fine, go for it. Na’i ddangos i chi’r grym y gall hynny rhoi i fi.” 

Ers rhyddhau ei sengl gyntaf ‘Blerr’ yn 2022, mae Tara Bandito wedi torri llwybr unigryw i’w hun wrth iddi greu gofod ble mae’r Gymraeg, Saesneg a Sansgrit yn eistedd law yn llaw â’r sitar, y delyn, synths a sŵn electroneg, gyda phob perfformiad byw yn cael ei drin fel sioe. 

Daeth ei halbwm cyntaf (2023) â diwedd ar bennod bersonol o alaru wedi colli ei thad – El Bandito, y reslwr eiconig fu’n teithio’r byd gyda Tara o’r foment y cafodd hi ei geni.

Mae ei sain, fel ei stori, yn llawn troeon annisgwyl. O hyfforddi fel athrawes ioga yn India, i berfformio gyda Charlotte Church’s Late Night Pop Dungeon mewn gwyliau enfawr ar draws y byd,  mae pob pennod a phrofiad yn gadael ei marc ar ei cherddoriaeth. 

Mae Tara yn cynllunio perfformio mewn cyfres o wyliau dros y misoedd nesaf gan ddechrau gyda FOCUS Wales yn Wrecsam ar 9 Mai.

Gigs Tara Bandito Live

09.05 – FOCUS Wales, Wrecsam 

16.05 – Gŵyl Fach y Fro, Y Bari 

24.05 – In It Together Festival, Parc Margam

14.06 – Tafwyl, Caerdydd 

21.06 – Roc y Ddol, Clwb Rygbi Bethesda 

07.08 – Noson Y Wal Goch, William Aston Hall, Wrecsam 

Gadael Ymateb