Mae Mei Gwynedd wedi gollwng y blas cyntaf o’i EP newydd, Amser.
‘Cofia Di, Ngeiriau i’ ydy enw’r sengl newydd ganddo, ac mae’n rhoi syniad o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar yr EP, ‘Amser’, sydd y dilyn ym mis Tachwedd.
Ers llwyddiant ysgubol ac annisgwyl Band Tŷ Potas, a chyngherddau di-ri, mae Mei Gwynedd yn ôl gydag EP newydd o ganeuon gwreiddiol.
Mae ‘Cofia Di, Ngeiriau i’ yn gân indie-pop afaelgar sy’n cyfuno alawon melys gyda geiriau personol a chynnes, ac yn parhau i adeiladu ar arddull unigryw Mei – pop Cymraeg gyda thro doeth, calon fawr a chlust am fandiau gorau’r 90au a phellach.
“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn boncyrs – gymaint o newidiadau personol ac yn fy myd fel cerddor” meddai Mei.
“Er bydd nosweithiau Tŷ Potas yn parhau fel yr arfer, roeddwn yn awyddus i barhau i rhyddhau caneuon gwreiddiol.
“Mae’r EP ‘Amser’ wedi bod fel sesiynau bach therapi, sydd yn ymwneud a thyfu, colli a charu. Mae’n air i glust y rhai sydd wedi teimlo’n unig, ond mewn ffordd bositif a chalonogol”.
Wedi’i recordio a’i gynhyrchu gan Mei ei hun yn Stiwdio JigCal, mae’r traciau yn cyfuno gitârs, piano, drymiau a lleisiau aml-haenog sy’n creu naws hiraethus ond gobeithiol.
Daw’r gwaith celf gan Steffan Dafydd, gafodd ei greu ar gyfer rhaglen S4C am Mei, ‘Cymru Ar Ganfas’, a’r mastro gan Hafod.