Mae Morgan Elwy wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘Byth yn y Bedd’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor roc-reggae o Ddyffryn Clwyd ac mae allan ar label Recordiau Bryn Rock.
Yn rhannu neges dros heddwch ac undod, mae’r trac yn gweld Morgan yn ailadrodd y llinell, “bydd y dub byth yn y bedd”.
Mae’r trac yn torri tir newydd gyda’i sain Geltaidd unigryw, sy’n cyfuno bas gludiog, riffs pwerus, dryms gwych Gruff Roberts a hefyd trefniadau chwythbrennau a phres arbennig gan Edwin Humphreys.
Cafodd y trac ei gymysgu gan Luke Evans yn Hendre Hall a’i fastro gan Dubmatix.