Mae Wigwam wedi rhyddhau eu EP newydd, ‘Paid â Gosod Larwm’, ar label Recordiau Jigcal.
Am y tro cyntaf ers 7 blynedd, dyma weld Wigwam yn rhyddhau casgliad estynedig o gerddoriaeth – un sy’n cyfleu aeddfedrwydd parhaol eu sain.
Dros bum cân ‘Paid â Gosod Larwm’, mae’r band o Gaerdydd yn archwilio’r harddwch yn y pethau bychain, gan ddadansoddi eiliadau o agosatrwydd yn ein bywydau, boed yn llawen neu’n boenus.
Mae’r teitl ei hun – y math o eiriau mae cariadon blinedig yn dweud wrth ei gilydd ar ddiwedd noson hir – yn adlewyrchu eu dathliad o gyfeillgarwch pob dydd, fel y mae’r gwaith celf ar gyfer yr EP, sy’n gasgliad o luniau o ffrindiau wedi’u casglu o archif ffilm bersonol y canwr/gitarydd Gareth Scourfield.
Dangos y band chwareus a dyfeisgar
Y sengl ddwbl ‘Cylched Yr Haul / Paid â Dod Nôl i Fi’, a ryddhawyd yn yr haf llawn dop o heulwen a pedal steel, sy’n ffurfio’r ddwy gân agoriadol ar yr EP, gyda gweddill y casgliad yn archwilio eithafion sain y band – o’r tawel i’r trwm.
Mae ‘Hwiangerdd’ yn gân dyner i dawelu meddwl ffrind sy’n poeni am eu hymddygiad wedi noson feddwol, gyda sain alt-werin sy’n atgoffa rhywun o Big Thief a Nick Drake, ac alaw gall ymlacio unrhyw wrandäwr.
Yn groes i natur dawel ‘Hwiangerdd’, mae ‘Calon Teflon’ yn odyssey – dadansoddiad chwe munud o berthynas ar chwâl, gyda’r canwr yn gafael yn anobeithiol am eiliadau positif o seibiant mewn dyfroedd byrlymys. Gan ddechrau’n acwstig, mae’r gân yn adeiladu haenau a thensiwn yn raddol, nes bod y llifddorau’n agor i ryddhau anhrefn sonig Radiohead-esque, ac emosiwn pur yn efelychu Lucy Dacus a Phoebe Bridgers.
Yn cau’r EP mae ‘Tŷ Fi’, coda lo-fi felys i’r casgliad, sy’n chwarae rôl tebyg i Her Majesty ar ddiwedd Abbey Road, wedi anterth dramatig ‘Calon Teflon’. Cân syml a hyfryd yw hon, gyda dim ond Gareth Scourfield ar y piano a Griff Daniels ar y lleisiau, sy’n adlewyrchu ysgrifennu gonest a llawn calon artistiaid fel Labi Siffre neu Jackson Browne.
Wedi’i gynhyrchu gan Tom Roberts (Showdogs) a gyda’r gwaith mastro gan Tom Rees (Buzzard Buzzard Buzzard) ac Eddie Al Shakarchi, mae’r EP yn dangos y band ar eu mwyaf chwareus a dyfeisgar. Mae gwaith gitâr Gav Owen (Half Happy, Heartpiece) yn cadw’r olwynion yn troi, gan lithro’n gyson rhwng indie slacker, countrygaze a power-pop.
Bydd Wigwam yn dathlu rhyddhau’r EP gyda gig lansio Nadolig yn The Canopi, Caerdydd, ar y 19 Rhagfyr, ac mae eu sioe byw yn gaddo bod mor eang a llawn hwyl â’u cerddoriaeth newydd.
Dyma ‘Calon Teflon’: